Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 26 Mehefin 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5669


218

------

<AI1>

1       Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Yn unol â Rheol Sefydlog 13.3, gwahoddodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, wyth Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at ddibenion yr eitem hon ar y cyd. Roedd 31 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn y Siambr ar gyfer yr eitem.

NDM7100 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.    Yn nodi y bydd gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei thymor cyntaf yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

a)    iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

b)    sgiliau bywyd yn y cwricwlwm; ac

c)    sbwriel a gwastraff plastig.

2.    Yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i gefnogi’r gwaith y mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgymryd ag ef i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru.

3.    Yn cytuno â’r datganiad ar y cyd sy’n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ran pobl ifanc Cymru.

Datganiad -Senedd Ieuenctid Cymru a'r Cynulliad

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(ii), cynhaliwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon ar ddiwedd y ddadl.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

Am 14.15, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 15 munud. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Dechreuodd yr eitem am 14.30

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8-10. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Cafodd cwestiynau 2, 8 a 9 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Dechreuodd yr eitem am 16.03

Gofynnwyd y ddau gwestiwn.

</AI4>

<AI5>

5       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 16.14

 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

 

Russell George: (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt?

</AI5>

<AI6>

6       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 16.26

Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad fel Hyrwyddwr Rhywogaethau ar gyfer y Llysywen Ewropeaidd.

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad yn coffáu 125 mlynedd ers Trychineb Glofa Albion (23Mehefin 1894)

</AI6>

<AI7>

Aelodaeth Pwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM7109 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Dawn Bowden (Llafur) fel aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM7099 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)  

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ebrill 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal methdaliad unrhyw sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant arian cyhoeddus;

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

34

43

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1.    Yn cydnabod:

a.    bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;

b.    yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;

2.    Yn croesawu:

a.    bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;

b.    bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;

c.    bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;

d.    mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

3.    Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

18

43

Derbyniwyd gwelliant 1.

[Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

25

43

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7101 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1.    Yn cydnabod:

a.    bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;

b.    yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;

2.    Yn croesawu:

a.    bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;

b.    bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;

c.    bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;

d.    mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

3.    Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

19

44

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.21

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer - Ni chyflwynwyd cynnig

Ni chyflwynwyd cynnig.

</AI12>

<AI13>

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 18.23

NNDM7103 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i Ddadl Fer Dawn Bowden gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mehefin 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI13>

<AI14>

11    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.23

NNDM7098 - Dawn Bowden (Merthyr Tydfil and Rhymney)

Amser i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru.

Gwneud ymrwymiad cenedlaethol i’r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl ddynol, wedi’i hategu gan gyfraith, i gael gafael ar dai digonol a chynaliadwy.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.47

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>